Skip to content

Cwestiynau Cyffredin

Cwestiynau Cyffredin

Er mwyn eich helpu i ddod o hyd i’r wybodaeth rydych yn chwilio amdani rydym wedi trefnu’r cwestiynau mwyaf cyffredin a’r atebion dan benawdau.

Dewiswch y linc isod os gwelwch yn dda:

  • Y Ddeddf Iechyd Meddwl

    Beth yw’r Ddeddf Iechyd Meddwl?

    Cyflwynwyd y Ddeddf Iechyd Meddwl yn 1983 (fe’i diwygiwyd ymhellach yn 2007) ac mae’n nodi sut y gallwch gael eich trin os oes gennych anhwylder meddyliol, a beth yw eich hawliau. Mae’r Ddeddf wedi’i rhannu’n adrannau. Gallwch gael eich cadw yn yr ysbyty o dan adrannau gwahanol fel y gellir eich asesu neu fel y gellir darparu triniaeth ichi ar gyfer anhwylder meddyliol. Pan fyddwch yn cael eich derbyn i ysbyty o dan orfodaeth gelwir hyn yn gyffredin yn “cael eich cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl”. Mae hyd yr arhosiad yn yr ysbyty yn dibynnu ar y math o adran a gafodd ei chymhwyso o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl.

    Beth yw’r maen prawf ar gyfer cadw pobl o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl?

    Gall unigolyn gael ei gadw yn yr ysbyty os bydd dau feddyg a Phroffesiynolyn Iechyd Meddwl Cymeradwy yn ystyried ei fod yn dioddef anhwylder iechyd meddwl difrifol a naill ai;

    1. y gellir cyfiawnhau cadw’r unigolyn yn yr ysbyty am gyfnod cyfyngedig er mwyn ei asesu a’i drin er lles iechyd a diogelwch yr unigolyn ei hun neu i amddiffyn eraill, neu
    2. fod angen i’r anhwylder iechyd meddwl gael ei drin yn yr ysbyty am gyfnod hwy a’i fod yn angenrheidiol i’r unigolyn hwnnw gael ei gadw er mwyn cael triniaeth o’r fath er lles ei iechyd neu ddiogelwch ei hun neu i amddiffyn eraill.
  • Y tribiwnlys a’i bwerau

    Beth y mae Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl Cymru yn ei wneud?

    Mae’r Tribiwnlys yn dribiwnlys annibynnol. Mae’n darparu dull diogelu pwysig i gleifion y cyfyngwyd ar eu rhyddid o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Ein swyddogaeth ni yw adolygu achosion cleifion sy’n cael eu cadw mewn ysbyty neu sy’n byw yn y gymuned yn ddarostyngedig i orchymyn rhyddhad amodol, triniaeth gymunedol neu warcheidiaeth.

    Pa bwerau sydd gan y tribiwnlys?

    Yn gyffredinol, os ydych yn destun Adran sy’n gallu para 28 diwrnod neu’n hwy, gall y Tribiwnlys benderfynu a ddylai’r Adran barhau. Gall y Tribiwnlys ystyried hefyd a ddylech barhau i fod yn destun Gorchymyn Triniaeth Gymunedol neu Orchymyn Gwarcheidiaeth. Os na fydd y Tribiwnlys yn rhyddhau’r Adran neu’r Gorchymyn, gall argymell eich bod yn cael absenoldeb gyda chaniatâd, eich bod yn cael eich trosglwyddo i ysbyty gwahanol, eich bod yn cael eich trosglwyddo i Warcheidiaeth, neu fod eich Clinigwr Cyfrifol yn ystyried a ddylid gwneud Gorchymyn Triniaeth Gymunedol. Ymhellach at hynny, gall y Tribiwnlys ailymgynnull i ystyried ymhellach eich cais neu atgyfeiriad os na chydymffurfiwyd ag argymhelliad.

    A all y tribiwnlys newid fy meddyginiaeth, fy niagnosis, neu’r meddyg, nyrs seiciatrig cymunedol neu weithiwr cymdeithasol yr wyf yn ei weld?

    Na. Ni all y Tribiwnlys ond ystyried a ddylech barhau’n ddarostyngedig i’r Ddeddf Iechyd Meddwl.

    Sut y mae’r Tribiwnlys yn dod i benderfyniad?

    Bydd y Tribiwnlys yn siarad â’ch meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs seiciatrig cymunedol, a phobl eraill sy’n ymwneud â’ch gofal, gan gynnwys fel arfer aelodau’r teulu, yn ogystal â chi os ydych yn dymuno siarad â nhw. Byddant yn ystyried adroddiadau ysgrifenedig gan eich tîm gofal. Bydd gennych chi, neu eich cynrychiolydd cyfreithiol os oes gennych chi un, gyfle hefyd i ofyn cwestiynau i’ch tîm gofal. Bydd y Tribiwnlys yn ystyried popeth y mae wedi’i glywed a’i ddarllen cyn gwneud penderfyniad. Gallwch ganfod rhagor am yr hyn sy’n digwydd yn y gwrandawiad, a’r meini prawf y mae’n rhaid i’r Tribiwnlys eu hystyried, yn yr adran ar ein gwefan ynghylch Gwrandawiad y Tribiwnlys.

  • Ceisiadau

    Sut rwyf yn gwneud cais i’r Tribiwnlys?

    Gallwch lenwi ffurflen gais, ysgrifennu atom, neu ofyn i’ch cynrychiolydd cyfreithiol wneud cais ar eich rhan. Mae’r ffurflen gais ar gael yn yr adran ynghylch Ceisiadau ar y wefan hon, neu gallwch ofyn i’ch Eiriolwr Iechyd Meddwl Annibynnol, gweithiwr cymdeithasol neu staff y ward i ddarparu un. Gweler y dudalen ynghylch Ceisiadau ar y wefan hon i gael rhagor o wybodaeth. Gweler llyfryn canllaw MHRTW-06.

    Rwyf yn ddarostyngedig i’r Ddeddf Iechyd Meddwl. Pryd y gallaf wneud cais i’r Tribiwnlys?

    Mae hynny’n dibynnu ar yr adran neu orchymyn yr ydych yn ddarostyngedig iddi/iddo. Gweler ein Tabl Cymhwystra i ganfod pryd y gallwch wneud cais.

    Pwy sy’n gallu gwneud cais i’r tribiwnlys?

    Mae gwybodaeth ynglŷn â phwy sy’n gymwys i wneud cais yn achos rhai o’r Adrannau a geir yn amlach ac yn achos Perthnasau Agosaf ar gael yn ein canllawiau ar Geisiadau yn yr adran Canllawiau a Ffurflenni ar y wefan hon. Mae’r wefan hon hefyd yn cynnwys Tabl Cymhwystra sy’n dangos pwy sy’n gymwys i wneud cais yn achos pob Adran neu Orchymyn.

    A oes gennyf hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol?

    Oes. Mae cynrychiolaeth gyfreithiol rhad ac am ddim gan gyfreithiwr arbenigol ar gael i unrhyw un sydd wedi gwneud cais am Dribiwnlys. Mae gan swyddfa’r Tribiwnlys restr o gyfreithwyr iechyd meddwl arbenigol y gallwch ddod o hyd iddi ar y wefan hon; gall eich eiriolwr (EIMA), Gweinyddwr y Ddeddf Iechyd Meddwl, neu staff ar y ward roi copi o’r rhestr hon ichi hefyd. Gallwch gael eich cynrychioli’n gyfreithiol gan bwy bynnag a ddymunwch, os ydynt yn fodlon, ar wahân i glaf arall yn yr un ysbyty â chi.

    A yw fy nghais yn gyfrinachol?

    Ydy, ni fydd eich cais yn cael ei rannu â neb ar wahân i’r rhai y mae angen iddynt ei weld fel rhan o’ch gwrandawiad yn y Tribiwnlys.

    A allaf gyflwyno fy nghais yn Gymraeg?

    Gallwch. Mae’r Tribiwnlys yn hapus i gael ceisiadau yn Gymraeg.

    A oes rhaid imi dalu ffi i’r tribiwnlys i wneud cais?

    Nac oes. Nid oes dim ffi i’w thalu am geisiadau.

    Beth sy’n digwydd ar ôl i’r tribiwnlys gael fy nghais?

    Bydd swyddfa’r Tribiwnlys yn cydnabod ei bod wedi cael eich cais a bydd yn gwneud trefniadau i gynnal y gwrandawiad. Yn nes at amser y gwrandawiad byddwch chi neu eich cynrychiolydd cyfreithiol yn cael copïau o adroddiadau a ysgrifennwyd gan eich tîm gofal. Ychydig cyn y gwrandawiad bydd aelod Meddygol y Tribiwnlys yn gwneud trefniadau i’ch gweld ar gyfer archwiliad rhagarweiniol.

    Beth sy’n digwydd os oes gennyf unrhyw anghenion ychwanegol?

    Sicrhewch eich bod yn nodi’r manylion am unrhyw anghenion ychwanegol pan fyddwch yn anfon eich cais atom. Er enghraifft, dylech ddatgan os oes angen dehonglwr iaith arwyddion neu gyfieithydd arnoch yn y gwrandawiad, neu os oes arnoch angen unrhyw drefniadau ychwanegol ar gyfer y gwrandawiad.

    Pryd y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal?

    Mae hynny’n dibynnu ar ba Adran/Gorchymyn yr ydych yn ddarostyngedig iddi/iddo, ond gall amrywio o 7 diwrnod i 14 wythnos. Mae’r cyfnodau wedi’u nodi yn ein llyfryn canllaw MHRTW-06.

    Beth os byddaf yn newid fy meddwl am wneud cais?

    Os byddwch yn penderfynu nad ydych chi eisiau cael gwrandawiad wedi’r cyfan, gallwch ofyn i’ch cais gael ei dynnu’n ôl. Os oes gennych chi gynrychiolaeth gyfreithiol, dylech gael gair â’ch cynrychiolydd cyfreithiol yn gyntaf a gofyn iddo ef neu hi i wneud cais i dynnu’r cais yn ôl. Os nad ydych yn cael eich cynrychioli, bydd aelod Cyfreithiol y Tribiwnlys yn cwrdd â chi i wneud yn siŵr eich bod yn deall goblygiadau tynnu’r cais yn ôl. Rhaid gwneud cais ysgrifenedig i dynnu eich cais yn ôl. Defnyddiwch ffurflen gais MHRTW-18 i wneud hyn. Darllenwch ein llyfryn canllaw MHRTW-18A os oes angen help arnoch chi i gwblhau’r ffurflen.

    Pwy yw fy mherthynas agosaf?

    Mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn darparu gwybodaeth ynglŷn â phwy y gellir ei drin yn berthynas agosaf ichi; gall eich ysbyty hefyd ddarparu gwybodaeth a chanllawiau ichi ynglŷn â phwy sy’n cael ei ystyried i fod yn berthynas agosaf ichi. Mae eithriadau i’r rheolau hyn neu os ydych yn iau na 18 oed, dylech geisio rhagor o wybodaeth gan eich ysbyty.

    A allaf newid fy mherthynas agosaf?

    Gallwch. Os nad ydych yn meddwl bod eich perthynas agosaf yn addas i fod yn berthynas agosaf ichi, gallwch ofyn i Lys Sirol newid hyn. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein llyfryn canllaw MHRTW-06.

    A all fy mherthynas agosaf drefnu i rywun arall fod yn berthynas agosaf imi?

    Na. Nid ydynt yn gallu trefnu i rywun arall fod yn berthynas agosaf ichi, ond maent yn gallu dweud y dylai rhywun arall wneud y pethau y byddent hwy yn ei wneud fel arfer o fod yn berthynas agosaf ichi. Gelwir hyn yn dirprwyo’u hawliau, a rhaid iddynt ddweud wrthych os ydynt wedi gwneud hyn.

    Beth sy’n digwydd os nad oes gennyf berthynas agosaf?

    Gallwch ofyn i’r Llys Sirol drefnu i rywun fod yn berthynas agosaf ichi ond dim ond os nad oes gennych berthynas agosaf neu os na all neb ganfod pwy yw eich perthynas agosaf. Gall rhai pobl eraill ofyn i’r llys wneud hyn yn yr un modd ag ar gyfer newid eich perthynas agosaf. Byddai’r Llys wedyn yn gwneud gorchymyn yn datgan pwy ddylai fod yn berthynas agosaf ichi.

  • Atgyfeiriadau

    Pam mae fy achos wedi cael ei atgyfeirio at y tribiwnlys?

    Mewn rhai amgylchiadau mae gan yr awdurdod sy’n gyfrifol am eich Adran neu Orchymyn ddyletswydd gyfreithiol i wneud atgyfeiriad i’r Tribiwnlys ac mewn rhai achosion gall Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru hefyd wneud atgyfeiriadau yn ôl ei ddisgresiwn ei hun.

    Gweler Llyfryn canllaw MHRTW-10.

    Beth sy’n digwydd pan fydd atgyfeiriad yn cael ei wneud?

    Bydd yr awdurdod sy’n atgyfeirio yn ysgrifennu at swyddfa’r Tribiwnlys i wneud yr atgyfeiriad. Yna, bydd swyddfa’r Tribiwnlys yn ysgrifennu i roi gwybod ichi fod atgyfeiriad wedi’i wneud ac i roi rhagor o wybodaeth.

    A yw’n dal yn bosibl imi wneud cais i’r Tribiwnlys os oes atgyfeiriad wedi’i wneud?

    Ydy. Nid yw atgyfeiriadau’n effeithio ar eich hawl chi i wneud cais i’r Tribiwnlys.

    Pryd y mae atgyfeiriadau’n cael eu gwneud?

    Mae hynny’n dibynnu ar yr Adran neu Orchymyn yr ydych yn ddarostyngedig iddi/iddo, ac am ba hyd. Gall eich cynrychiolydd cyfreithiol neu Weinyddwr y Ddeddf Iechyd Meddwl ddweud wrthych pryd y mae atgyfeiriad i’w wneud. Mae ein gwefan yn cynnwys tabl cymhwystra sy’n dangos pryd y mae atgyfeiriadau i’w gwneud.

    Pryd y bydd y gwrandawiad ar gyfer fy atgyfeiriad yn cael ei gynnal?

    Bydd hynny’n dibynnu ar yr adran neu orchymyn yr ydych yn destun iddi/iddo, ond mae’r cyfyngiadau amser rhwng 5 a 14 wythnos. Mae ein llyfryn canllaw MHRTW-10 yn darparu rhagor o wybodaeth.

  • Y Perthynas Agosaf

    Beth sy’n gallu bod yn berthynas agosaf?

    Term cyfreithiol yw ‘Perthynas Agosaf’ ac fel arfer mae’n golygu’r aelod o deulu’r claf sydd â hawliau a phwerau penodol o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Nid yw Perthynas Agosaf cyfreithiol unigolyn yr un fath o reidrwydd â’u Câr Agosaf.

    Pa hawliau sydd gennyf os rwyf yn berthynas agosaf?

    Mae’r Ddeddf Iechyd Meddwl yn datgan eich bod yn gallu gwneud pethau amrywiol mewn cysylltiad â gofal a thriniaeth y perthynas. Mae’n datgan hefyd fod rhaid i bobl eraill ddweud pethau wrthych am ei ofal a’i driniaeth. Gelwir yn rhain yn eich hawliau chi, y perthynas agosaf. Gweler llyfryn canllaw MHRTW-09 i gael rhagor o wybodaeth

    Beth yw fy rôl os rwyf yn berthynas agosaf?

    Mae eich rôl yn bwysig o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae’n rhoi hawl ichi wneud ceisiadau penodol ynglŷn â derbyn eich perthynas i’r ysbyty. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein llyfryn canllaw MHRTW-09.

    Sut yr wyf yn gwneud cais i’r Tribiwnlys?

    Gallwch ysgrifennu atom neu gyfarwyddo cynrychiolydd cyfreithiol i wneud hynny. Gweler y canllawiau am geisiadau, neu’r tabl sy’n dangos pwy sy’n gymwys i wneud cais, cyn cyflwyno’ch cais; mae’r ddau ar gael ar y wefan hon.

    Pryd y gallaf wneud cais i’r Tribiwnlys?

    Mae hyn yn dibynnu ar y math o adran neu orchymyn, ond gall amrywio o 28 diwrnod i 6 mis neu’n hwy. Mae rhagor o wybodaeth am y cyfnodau dan sylw ar gael yn ein tabl cymhwystra

    Rwyf yn berthynas agosaf a ddisodlwyd. Pryd y gallaf wneud cais i’r Tribiwnlys?

    Gall perthynas agosaf rhywun sy’n ddarostyngedig i Adran 3, Adran 17a (Gorchymyn Triniaeth Gymunedol), neu Adran 7 (Gorchymyn Gwarcheidiaeth), sy’n berthynas agosaf a ddisodlwyd, wneud cais i’r Tribiwnlys unwaith yn ystod 12 mis cyntaf Adran/Gorchymyn ei berthynas, ac unwaith yn ystod pob blwyddyn wedi hynny.

  • Gwrandawiad y Tribiwnlys

    Bet sy’n digwydd mewn gwrandawiad tribiwnlys?

    Bydd y tribiwnlys yn egluro’r weithdrefn ar ddechrau’r gwrandawiad. Yn y gwrandawiad, bydd gan banel y Tribiwnlys a’ch cynrychiolydd cyfreithiol gyfle i ofyn cwestiynau i’ch tîm gofal a bydd fel arfer am siarad â chi hefyd. Nid oes rhaid ichi siarad â’r Tribiwnlys os nad ydych yn dymuno gwneud hynny. Os hoffech adael y gwrandawiad ar unrhyw adeg, dywedwch wrth eich cynrychiolydd cyfreithiol neu rhowch wybod i banel y Tribiwnlys.

    Pan fydd aelodau’r Tribiwnlys wedi gorffen gofyn cwestiynau, byddant yn gofyn i bawb adael tra byddant yn gwneud eu penderfyniad. Fel arfer, byddant yn dweud wrthych beth yw eu penderfyniad y diwrnod hwnnw. Bydd copi o’r penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei anfon atoch neu eich cynrychiolydd cyfreithiol yn fuan ar ôl y gwrandawiad.

    Weithiau ni fydd y Tribiwnlys yn gallu dod i benderfyniad, er enghraifft oherwydd nad oes ganddo ddigon o wybodaeth. Yn yr achos hwn, bydd y gwrandawiad yn cael ei ohirio a bydd dyddiad ac amser newydd ar gyfer y gwrandawiad yn cael eu trefnu. Gweler llyfryn canllaw MHRTW-07 i gael rhagor o wybodaeth.

    Ble y bydd y gwrandawiad yn cael ei gynnal?

    Cynhelir y gwrandawiad fel arfer yn yr ysbyty yr ydych yn cael eich cadw ynddo.

    Pwy fydd yng ngwrandawiad y tribiwnlys?

    Bydd tri o bobl ar banel y Tribiwnlys, a elwir yn aelodau Cyfreithiol, Meddygol a Lleyg. Maent yn annibynnol ar eich meddyg, gweithiwr cymdeithasol neu nyrs seiciatrig cymunedol (NSC), neu’r ysbyty os ydych yn cael eich cadw yno; bydd eich cynrychiolydd cyfreithiol, os oes gennych un, eich meddyg (seiciatrydd), eich gweithiwr cymdeithasol a/neu eich nyrs seiciatrig cymunedol hefyd yn eich gwrandawiad. Os ydych yn yr ysbyty, bydd nyrs yn bresennol fel arfer. Os ydych wedi dweud wrthym y gall gael ei wahodd, gall eich Perthynas Agosaf fod yno hefyd.

    Mae’r gwrandawiad amdanaf fi; a allaf ddod â rhywun gyda mi i’r gwrandawiad i’m cefnogi?

    Gallwch. Oni bai bod y tribiwnlys yn cyfarwyddo fel arall, gall pwy bynnag arall a ddymunwch fod yno gyda chi, ond rhaid ichi roi gwybod i’r tribiwnlys am unrhyw un a fydd yn dod i’ch cefnogi, a hynny drwy gwblhau ffurflen MHRTW-02. Ni fydd y tribiwnlys yn talu ei dreuliau teithio ac ni all fod yn gynrychiolydd ichi.

    Beth yw arsylwyr?

    Proffesiynolion iechyd meddwl fel meddygon neu weithwyr cymdeithasol sy’n dysgu am Dribiwnlysoedd yw’r arsylwyr fel arfer. Nid oes rhaid ichi adael i arsylwr fod yn eich gwrandawiad os nad ydych am i un fod yno; dywedwch wrth eich Cynrychiolydd Cyfreithiol, eich eiriolwr (EIMA), neu banel y Tribiwnlys.

    Beth yw gohiriad (postponement)?

    Os bydd gwrandawiad Tribiwnlys yn cael ei ohirio, bydd yn cael ei gynnal ar ddyddiad diweddarach na’r un a gynlluniwyd yn wreiddiol.

    Beth yw gohiriad (adjournment)?

    Caiff gwrandawiad ei ohirio os yw wedi cychwyn, ond yn dod i ben cyn iddo gwblhau. Bydd dyddiad newydd yn cael ei bennu i gynnal gweddill y gwrandawiad.

    A fydd y tribiwnlys yn cwblhau archwiliad meddygol cyn y gwrandawiad? Pwy sy’n ymgymryd â’r archwiliad meddygol, a beth sy’n digwydd?

    Bydd, bydd aelod meddygol y Tribiwnlys yn trefnu eich gweld yn breifat cyn y gwrandawiad. Bydd yn gofyn am eich symptomau a sut rydych yn teimlo, ac yn llunio safbwynt am eich iechyd meddwl presennol ac unrhyw faterion perthnasol eraill y bydd wedyn yn eu datgelu i aelodau eraill y Tribiwnlys cyn i’r gwrandawiad gychwyn. Bydd hefyd yn edrych ar eich nodiadau o’r ysbyty a gall siarad ag aelodau’r tîm sy’n gofalu amdanoch.

    Nid oes rhaid ichi gwrdd â’r aelod meddygol ond mae o gymorth i’r Tribiwnlys gael y safbwynt rhagarweiniol hwn cyn i’r gwrandawiad gychwyn.

    A allaf rwystro gwrandawiad y tribiwnlys rhag cael ei gynnal?

    Gallwch. Os ydych wedi gwneud cais i’r Tribiwnlys, gallwch ofyn am gael tynnu’ch cais yn ôl. Gweler llyfryn canllaw MHRTW-06 i gael rhagor o wybodaeth am dynnu cais yn ôl.

    Beth sy’n digwydd os byddaf yn cael fy rhyddhau cyn i’r gwrandawiad gael ei gynnal?

    Gall y Tribiwnlys ddim ond ystyried yr Adran neu’r Gorchymyn yr ydych yn ddarostyngedig iddi/iddo ar hyn o bryd. Os bydd eich Clinigwr Cyfrifol yn rhyddhau’r Adran neu’r Gorchymyn, caiff gwrandawiad y Tribiwnlys ei ganslo.

  • Cynrychiolaeth a chymorth cyfreithiol

    Beth yw cynrychiolydd?

    Mae hwn yn rhywun sy’n gallu eich cefnogi yn y gwrandawiad; gall fod yn gynrychiolydd cyfreithiol neu rywun arall.

    Pwy sy’n gallu bod yn gynrychiolydd?

    Gall fod yn gyfreithiwr ichi neu rywun fel aelod o’ch teulu (ac yn aml dyma pwy sy’n cynrychioli). Gallwch ddewis pwy yr ydych am iddo fod os oes gennych y galluedd i wneud hynny. Rhaid iddo fod dros 18 oed, yn fodlon bod yn gynrychiolydd ichi, gallu cadw mewn cysylltiad â chi, ac yn ddigon iach yn gorfforol i ymgymryd â’i rôl.

    A all y cynrychiolydd fynd i wrandawiad y tribiwnlys?

    Gall. Ond rhaid ichi roi gwybod i’r tribiwnlys y bydd yn dod drwy gwblhau’r ffurflen berthnasol.

    A oes rhaid i’r cynrychiolydd fod wedi’i gymhwyso’n gyfreithiol?

    Na. Gall eich cynrychiolydd fod yn rhywun arall. Gallwch ddewis pwy rydych am iddo fod os yw â’r galluedd i wneud hynny. Rhaid iddo fod dros 18 oed, yn fodlon bod yn gynrychiolydd ichi, gallu cadw mewn cysylltiad â chi, ac yn ddigon iach yn gorfforol i ymgymryd â’i rôl.

    A oes gennyf hawl i gynrychiolaeth gyfreithiol rhad ac am ddim?

    Oes, a gall y Tribiwnlys ddarparu rhestr o gyfreithwyr arbenigol.

  • Yr Awdurdod Cyfrifol

    Pwy yw’r awdurdod cyfrifol?

    Mae’n dibynnu ar y math o orchymyn rydych yn ddarostyngedig iddo, ond fel arfer y bwrdd iechyd lleol neu reolwyr yr ysbyty cyfrifol neu adran gwasanaethau cymdeithasol eich awdurdod lleol yw’r awdurdod cyfrifol.

    Am beth y maent yn gyfrifol?

    Mae ganddynt gyfrifoldeb dros sicrhau eich bod yn gwybod am eich hawliau i wneud cais i’r tribiwnlys a hefyd i atgyfeirio achosion i gael eu hadolygu.

    Pa adroddiadau y mae’n rhaid i’r awdurdod cyfrifol eu darparu?

    Rhaid i’r awdurdod cyfrifol ddarparu gwybodaeth benodol amdanoch chi i’r tribiwnlys fel adroddiad clinigol, amgylchiadau cymdeithasol, ei safbwyntiau, cynlluniau gofal ac unrhyw wybodaeth arall y mae o’r farn ei bod yn berthnasol. I gael rhagor o wybodaeth, gweler llyfryn canllaw MHRTW-10.

    Faint o amser sydd gan yr awdurdod cyfrifol i baratoi adroddiadau?

    Mae’r cyfyngiadau amser yn achos adroddiadau’n amrywio gan ddibynnu ar y math o adran yr ydych yn ddarostyngedig iddi. Rhaid i adroddiadau Adran 2 gael eu darparu ar ddiwrnod y gwrandawiad, tra byddai adroddiadau eraill yn cael eu darparu heb fod yn hwy na 3 wythnos o’r dyddiad y cafodd y tribiwnlys gais.

    Pa wybodaeth y mae’n rhaid ei darparu mewn adroddiad clinigol (a elwir yn gyffredin yn adroddiad meddygol neu seiciatrig), amgylchiadau cymdeithasol a nyrsio?

    Mae’r wybodaeth i’w chynnwys mewn adroddiadau wedi’i phennu mewn rheolau ond byddai fel arfer yn cynnwys gwybodaeth bersonol fel enw, dyddiad geni, y math o adran yr ydych yn ddarostyngedig iddi, ble rydych yn cael eich cadw, pam rydych yn cael eich cadw a chrynodeb o’ch hanes. I gael rhagor o wybodaeth, gweler llyfryn canllaw MHRTW-11.

  • Penderfyniadau

    Pa mor hir y mae’n ei gymryd fel arfer i’r tribiwnlys gyhoeddi ei benderfyniad?

    Fel arfer mae’r penderfyniad yn cael ei wneud ar y diwrnod; mae copi o’r penderfyniad ysgrifenedig yn cael ei anfon atoch chi neu eich cynrychiolydd cyfreithiol yn fuan wedi’r gwrandawiad. Weithiau ni fydd y Tribiwnlys yn gallu dod i benderfyniad, er enghraifft os nad oes ganddo ddigon o wybodaeth. Yn yr achos hwn bydd y gwrandawiad yn cael ei ohirio a bydd dyddiad newydd yn cael ei drefnu.

    Beth os byddaf yn anghytuno â phenderfyniad y Tribiwnlys?

    Os hoffech apelio yn erbyn penderfyniad y Tribiwnlys, rhaid ichi, cyn pen 28 diwrnod ar ôl cael y penderfyniad ysgrifenedig, wneud cais i’r Tribiwnlys am ganiatâd i apelio i’r Uwch Dribiwnlys. (Gweler llyfryn canllaw MHRTW-14).

    Ni allwch apelio os yr unig reswm am hynny yw eich bod yn anghytuno â’r penderfyniad. Byddwch yn cael caniatâd dim ond os oes gennych reswm dros ddadlau bod y penderfyniad yn anghywir yn ôl y gyfraith.

    Os ydych yn anfodlon â’r modd y cawsoch eich trin gan aelodau’r Tribiwnlys neu’r staff neu’r modd y cafodd y gwrandawiad ei gynnal, gallwch gyflwyno cais i’r Tribiwnlys a fydd yn cael ei ymchwilio iddo.

    Sut y mae’r Tribiwnlys yn dod i’w benderfyniad?

    Mae’r tribiwnlys yn ystyried yr holl wybodaeth a gafwyd gan yr awdurdod cyfrifol, eich cynrychiolydd cyfreithiol, gennych chi a’r aelod meddygol; mae’r panel yn ystyried yr holl wybodaeth hon cyn dod i benderfyniad.